Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019

 

Pwynt Craffu Technegol 1 - Ymateb

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gydgasglu gwybodaeth ynghylch trosi deddfwriaeth yr UE yn y maes hwn, a gosododd hysbysiad yn y gronfa ddata Mesurau Gweithredu Cenedlaethol ar ein rhan. Cysylltodd Defra ag Adran Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru ar 25 Medi 2019 i ofyn am y newyddion diweddaraf ynghylch trosi Cyfarwyddeb (EU) 2018/350. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r ddeddfwriaeth yn cael ei throsi’n hwyr, ond mai ychydig iawn o oedi a fyddai. Ar 9 Hydref 2019 cysylltodd Llywodraeth Cymru â Defra i ddweud bod Cyfarwyddeb 2018 wedi ei gweithredu drwy gyfrwng Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019, a osodwyd ar 8 Hydref 2019.

 

Pwynt Craffu Technegol 2 - Ymateb

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mai at baragraff 14(g) y dylai’r croesgyfeiriad fod, a bydd yn cymryd camau i wneud y cywiriad a nodwyd gan y Pwyllgor.

 

Pwynt Craffu Technegol 3 - Ymateb

Pwynt i:

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y gofynion a nodir yn adran B.4(f) o Atodiad III B i Gyfarwyddeb 2001 (a fewnosodir gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2018) wedi eu cwmpasu gan eiriad paragraff 40 o Atodlen 1 i Reoliadau 2002, sy’n darparu gofyniad i gyflenwi gwybodaeth ynghylch y dulliau a’r gweithdrefnau i ddiogelu’r safle. 

Yng nghyd-destun gwneud cais, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y byddai’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â diogelu’r safle yn ei hanfod yn cwmpasu darparu gwybodaeth ynghylch y dulliau a’r gweithdrefnau a nodir yn adran B.4(f). Wedi ystyried cwmpas a natur gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelu’r safle, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod geiriad Atodlen 1 yn cwmpasu’r dulliau a’r gweithdrefnau y mae’r Pwyllgor yn cyfeirio atynt, heb fod angen cynnwys yr union destun a ddyfynnwyd. Er enghraifft, byddai geiriad Rheoliadau 2002 yn ei gwneud yn ofynnol darparu manylion ynghylch y Trefniadau Gweithredu Safonol y mae rhaid i weithwyr awdurdodedig eu dilyn, a manylion eraill a fyddai, gyda’i gilydd, yn cwmpasu’r pwyntiau a nodir yn adran B.4(f) ac yn mynd y tu hwnt i hynny.

Pwynt ii:

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y Rheoliadau’n cwmpasu’r testun a ddyfynnwyd gan y Pwyllgor, a bod y testun hwnnw wedi ei adlewyrchu yn y Rheoliadau, heb fod angen dilyn yr un geiriad yn union. Yn benodol, gofynnir i’r Pwyllgor gyfeirio at reoliad 7, a pharagraff 18 o Atodlen 1A sydd i'w fewnosod yn Rheoliadau 2002, sy’n ei gwneud yn ofynnol darparu:

Yr wybodaeth ganlynol am y dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig a chyfansoddiad—

(a)       dewis cyfatebydd confensiynol ac unrhyw gymaryddion ychwanegol a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiadau cymharol,

(b)       dewis lleoliad y safle maes ar gyfer cynhyrchu deunydd planhigion ar gyfer dadansoddiadau cymharol,

(c)        dyluniad yr arbrawf gan gynnwys dadansoddiad ystadegol,

(ch)     dewis deunydd planhigion i’w ddadansoddi, pan fo hynny’n berthnasol,

(d)       dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig,

(dd)     dadansoddiad cymharol o gyfansoddiad, os yw’n berthnasol…

Mae’r ddarpariaeth hon, o’i darllen gyda’r diwygiad i reoliad 17 o Reoliadau 2002, y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 5 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019, yn cwmpasu gofynion Cyfarwyddeb (EU) 2018/350 heb ddyfynnu’r union eiriau y mae’r Pwyllgor yn cyfeirio atynt.

 

Pwynt Craffu Technegol 4 - Ymateb

Pwyntiau i, ii a iv:

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwyntiau a godwyd a bydd yn cymryd camau i wneud y cywiriadau a nodwyd gan y Pwyllgor.

Pwynt iv:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y gair ‘nodweddion’ wedi ei ddefnyddio yn y Rheoliadau i gyfleu ‘traits’ yn ogystal â ‘characteristics’ yn y Gymraeg. Dewiswyd y geiriad hwn i gyd-fynd â geiriad testun Cymraeg Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 ac fe’i defnyddiwyd er mwyn sicrhau cysondeb. Derbynnir bod ystyron penodol i’r geiriau ym maes geneteg. Oherwydd y modd y defnyddiwyd y term yn Rheoliadau 2002, ystyrir y gallai gwahaniaethu rhwng y termau yn Rheoliadau 2019 beri ansicrwydd wrth ddehongli Rheoliadau 2002. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y modd y defnyddir y termau yn Rheoliadau 2002, er mwyn gwahaniaethu rhwng ‘traits’ a ‘characteristics’ ar adeg briodol yn y dyfodol.